Boed dyoddefiadau pur y groes

(Rhinwedd angeu y groes)
1,2,3,4,5;  1,2,6,7,8;  1,2,9.
Boed dyoddefiadau pur y groes,
  I laesu'm cur a'm gwae:
Griddfanau dyfnion angeu loes,
  I'm rhoddi i lawenhau.

Marwolaeth fy Ngwaredwr mawr,
  Yn fywyd pur i mi;
Fel gallwyf roddi oll i lawr,
  Yn gôf am Galfari.

Fe rodd ei ddwylo pur ar led,
  Fe wisgodd goron ddrain;
Er mwyn i'r brwnt gael bod yn wyn,
  Fel hyfryd liain main.

Yma dymunwn dreulio'm hoes,
  O fore hyd brydnawn;
Lle cawn i wylo cariad pur,
  Yn ddagrau melus iawn.

Calfaria fryn yw'r unig sail
  Adeilaf arno mwy;
A gwraidd fy nghysur
    fyth gaiff fod
  Mewn dwyfol farwol glwy'.

Mi dafla 'maich i lawr i gyd,
  Trwy rinwedd dwyfol loes;
Euogrwydd fel mynyddau'r byd
  Dry'n ganu wrth dy groes.

Dan bob cystuddiau fwy na mwy -
  Rhuadau cnawd a byd,
Mae nerth i'w gael mewn marwol glwy'
  I'w maeddu oll yn nghyd.

Mae angeu'r groes yn awr yn hy'
  Yn dadleu dros y gwan;
Ac angeu fy Iachawdwr cu,
  Cyn hir, a'm cwyd i'r làn.

Na bydded gwag ofalon byd,
  Na chroesau o un rhyw,
I'm hoeri, nc i sugno 'mryd
  Un dim oddiwrth fy Nuw.

             - - - - -

Boed dyoddefiadau pur y groes
  Fel olew i'm hiachau;
Gruddfanau dyfnion angeu loes
  Yn gwneyd im' lawenhau.

Dyoddefodd angeu, dygyn boen,
  A gofir tra fo nef;
Fy nrth, fy nghyfoeth, a fy mraint,
  Fy noddfa lawn yw Ef.

Fe ro'dd ei ddwylaw pur ar led,
  Fe wisgodd goron ddrain;
Er mwyn i'r brwnt gael bod yn wyn
  Fel hyfryd lïain main.

Mi dafla 'maich i lawr i gyd
  Trwy rinwedd Dwyfol loes;
Euogrwydd, fel mynyddau'r byd,
  Dry'n ganu wrth y groes.
William Williams 1717-91

Tonau [MC 8686]:
St Stephen (William Jones 1726-1800)
Savannah (<1875)

gwelir:
  Agorwyd pyrth y nefoedd wen
  Am angau'r groes mae canu'n awr
  Darfydded dydd darfydded nôs
  Mae pyrth y nef o led y pen
  Mae'r orsedd fawr yn awr yn rhydd
  Mi dafla' 'maich i lawr i gyd
  Na foed fy mywyd bellach mwy
  Nis gall angylion pur y nef
  Wel f'enaid gorfoledda mwy
  Yn nyfnder profedigaeth ddu

(The merit of the death of the cross)
 
Let the pure sufferings of the cross be
  To sooth my ache and my woe:
The deep groans of the throes of death,
  To set me rejoicing.

The death of my great Deliverer,
  As pure life to me;
Thus I may put all down,
  In memory of Calvary.

He set his pure hands wide,
  He wore a crown of thorns;
In order for the filthy to get to be white,
  Like delightful fine linen.

Here I wish to spend my lifetime,
  From morning until afternoon;
Where I may get to cry pure love,
  In very sweet tears.

Calvary hill is the only basis
  I will build upon any more;
And the root of my comfort
    forever shall get to be
  In a divine mortal wound.

I will throw all my burden down,
  Through the merit of the divine anguish;
Guilt like the mountains of the world
  Will turn to singing by the cross.

Under every affliction greater than greater -
  Roar flesh and world,
There is strength to be had in a mortal wound
  To forgive them all altogether.

The death of the cross is now bold
  Arguing for the weak;
And the death of my dear Saviour,
  Before long, will lift me up.

Let not the empty cares of the world,
  Nor crosses of any kind,
Chill me, nor suck my attention
  At all away from my God.

                - - - - -

Let the pure sufferings of the cross be
  Like oil to heal me;
The deep groans of the throes of death
  Make me rejoice.

He suffered death, dire pain,
  To be remembered while ever heaven be;
My strength, my wealth, and my privilege,
  My full refuge is he.

He put his pure hands out wide,
  He wore a crown of thorns;
In order for the filthy to get to be white
  Like lovely fine linen.

I will fling all my burden down
  Through the merit of Divine anguish;
Guilt like the world's mountains,
  Will turn to singing by the cross.
tr. 2015,19 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~